[ Web Proxy ]
URL:
Viewing: https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio [Back]  [Original]

Cofrestru i bleidleisio - GOV.UK Skip to main content

Navigation menu

Menu Menu
Search GOV.UK Search GOV.UK
  1. Home

Cofrestru i bleidleisio

Gallwch ddefnyddior gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • ychwanegu eich enw at y gofrestr etholiadol er mwyn i chi allu pleidleisio mewn etholiadau a refferenda yn y DU
  • optio allan or gofrestr agored - y fersiwn or gofrestr etholiadol sydd ar gael i unrhyw un ei phrynu
  • diweddaru eich enw, eich cyfeiriad neuch cenedligrwydd drwy ailgofrestru gan ddefnyddio eich manylion newydd (os ydych yn byw yn y DU)

Mae proses wahanol i gofrestrun ddienw, er enghraifft os ydych yn bryderus ynghylch eich diogelwch neu ddiogelwch rhywun yn eich aelwyd.

Gallwch gadarnhau a ydych eisoes wedich cofrestru i bleidleisio drwy gysylltu ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Maer gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cofrestrwch ar-lein

Dim ond unwaith y mae angen i chi gofrestru fel arfer nid ar gyfer pob etholiad. Bydd angen i chi gofrestru eto os byddwch wedi newid eich enw, eich cyfeiriad neu eich cenedligrwydd.

Maen cymryd tua 5 munud fel arfer.

Dechrau nawr

Beth mae angen i chi wybod

Rhagor o wybodaeth Gofynnir am eich rhif Yswiriant Gwladol (ond gallwch gofrestru o hyd os nad oes gennych un).

Dod o hyd ich rhif Yswiriant Gwladol.

Pwy all gofrestru i bleidleisio

Gallwch gofrestru i bleidleisio hyd at ddwy flynedd cyn i chi gyrraedd yr oedran pleidleisio - cadarnhewch y rheolau o ran pleidleisio yn y DU.

Os ydych yn byw yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon

Maen rhaid i chi fod yn 16 oed neu drosodd i bleidleisio.

Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych yn ddinesydd Prydeinig neun ddinesydd Gwyddelig.

Gallwch hefyd gofrestru os ydych wedi cael caniatd (neu nid oes angen caniatd arnoch) i ddod i mewn ir DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw neu i aros yno ach bod:

  • yn ddinesydd or Gymanwlad (gan gynnwys dinasyddion Cyprus a Malta)
  • yn ddinesydd o Ddenmarc, Lwcsembwrg, Gwlad Pwyl, Portiwgal neu Sbaen
  • yn ddinesydd o wlad arall yn yr UE oedd, ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020, wedi cael caniatd i ddod i mewn ir DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros yno (neu nid oedd angen caniatd arno), ac mae hyn wedi parhau heb doriad

Os ydych yn byw yng Nghymru neur Alban

Maen rhaid i chi fod yn 14 oed neu drosodd i bleidleisio.

Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych yn ddinesydd Prydeinig neun ddinesydd Gwyddelig.

Gallwch hefyd gofrestru ydych wedi cael caniatd i ddod i mewn ir DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw neu i aros yno, neu os nad oes angen caniatd or fath arnoch.

Os ydych yn byw dramor

Gallwch gofrestru fel pleidleisiwr tramor os ydych wedi byw yn y DU yn flaenorol ach bod naill ai:

  • yn ddinesydd Prydeinig
  • yn ddinesydd Gwyddelig cymwys syn cofrestru i bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon

Bydd angen i chi roi cod post y cyfeiriad diwethaf yn y DU lle roeddech wedich cofrestru i bleidleisio.

Os nad ydych erioed wedi cofrestru i bleidleisio, bydd angen i chi roi cod post y cyfeiriad diwethaf yn y DU lle roeddech yn byw.

Cysylltwch ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol os na allwch gofio ym mha gyfeiriad roeddech wedich cofrestru ddiwethaf.

Efallai y gofynnir am fanylion eich pasbort hefyd.

Bydd angen i chi adnewyddu eich cofrestriad i bleidleisio o dramor bob tair blynedd.

Mae ffordd wahanol o gofrestru fel etholwr tramor os ydych:

Dysgwch fwy am bleidleisio os byddwch yn symud dramor neu os ydych yn byw dramor.

Cofrestru gan ddefnyddio ffurflen bapur

Gallwch gofrestru gan ddefnyddio ffurflen bapur yng Nghymru, Lloegr ar Alban.

Bydd angen i chi argraffur ffurflen, ei llenwi ai hanfon ich Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Mae ffurflen bapur wahanol os ydych yn cofrestru yng Ngogledd Iwerddon. Dylech ddychwelyd y ffurflen i Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon (EONI).

Cael cymorth i gofrestru

Gallwch gael cymorth i gofrestru gan eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Mae canllaw hawdd ei ddeall am gofrestru i bleidleisio.

Ar l i chi gofrestru

Bydd eich enw ach cyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol. Bydd hefyd yn ymddangos ar y gofrestr agored oni bai eich bod wedi gofyn i optio allan wrth gofrestru.

Yna gallwch:

giraffe:
what_doing:
what_wrong:

Web Proxy Viewer  |  New URL  |  Original Page